Michael Harvey ar adrodd a rhannu straeon

Published on: 28 Ionawr 2020

Wythnos Genedlaethol Adrodd Stori! Mae'r storïwr Michael Harvey yn rhoi ei gynghorion ar sut i ddod yn storïwr hefyd.

Storyteller Michael Harvey, Chris Webb Photography

Rwy’n adrodd straeon fel gwaith llawn amser ers pum mlynedd ar hugain bellach ac rwy bob amser yn cael fy synnu gan sut mae pobl o bob oedran a chefndir yn cael eu hudo a’u cyfareddu gan straeon ar lafar.

Adroddaf straeon mewn ysgolion i blant o bob oedran ac yn aml iawn rwy’n clywed gan athrawon bod rhyw grŵp penodol yn ‘methu gwrando am fwy na deng munud’. Fel arfer rwy’n gorffen sesiwn pedwar deg pum munud neu awr ac mae’r grŵp  dal yn awyddus i glywed mwy.

Mae’n brofiad digon cyffredin cerdded i mewn i ysgol a chwrdd  phlentyn, oedd wedi clywed straeon gen i'r flwyddyn gynt, sydd yn cofio’r achlysur a’r straeon. Does dim problem gan blant ganolbwyntio panmae straeon yn cael eu hadrodd!

Os ydy chwedleua mor wych, pam nad ydyn ni’n ei wneud e drwy’r amser? Y gwir amdani yw nad diffyg gallu yw’r broblem ond bod y rhan fwyaf o bobl heb arfer â chwedleua. Mae hi’n gallu teimlo braidd yn lletchwith i ddechrau ond, wrth lwc, mae nifer o ffyrdd syml o roi ein hunain ar y trywydd iawn…

Gwrthrychau

Pan mae’r wyrion yn dod i’n tŷ ni maen nhw’n chwilota ym mhobman ac yn dod o hyd i bob math o bethau i chwarae â nhw. Mae hyn yn gallu troi  mewn i gêm creu stori. Os ydy’r gwrthrych yn gysylltiedig ag atgof personol cewch chi adrodd yr hanes a dechrau cyfoethogi straeon teuluol bobl bach eich bywyd.

Children searching for objects on the beach

Mas â Ni!

Rydym yn hynod o ffodus yng Nghymru oherwydd y coedwigoedd, traethau a llefydd hardd eraill sy’ gyda ni wrth law. Mae oedolion wedi arfer â cherdded trwy’r dirwedd ond mae’n well gan blant chwarae, hamddena a chreu cwtsh allan o ganghennau ac ati. Mae’r llefydd hynny yn ddelfrydol ar gyfer adrodd straeon.

Childrens wellington boots in woodland

Gan Bwyll Bach

Bod yn chwareus a mynd heb frys a heb ddisgwyliadau mawr yw’r ffordd orau i fagu’r arfer o chwedleua. Yn aml bydd ffocws y chwarae yn symud o chwarae corfforol i archwilio’r byd o’n cwmpas ac wedyn i chwarae dychmygol. Oddi yna mae’n rhwydd symud i mewn i adrodd straeon gan ofyn cwestiynau sydd yn deillio o’ch chwilfrydedd a diddordebau’ch hunan. Os ydy plentyn yn dechrau chwarae gyda ffon neu garreg benodol mae’n bosib gofyn cwestiynau fel, “Pwy sy biau’r ffon yna? Ai ffon dewin yw hi, neu ffon plentyn?” Neu “Dyna garreg fach sgleiniog. Pam mae mor sgleiniog? Pwy sy biau hi?”. Oddi yna mae’r stori yn gallu tyfu. Peidiwch â phoeni os ydy’r plant yn cael eu denu i ffwrdd gan bethau eraill o’u cwmpas. Gadewch i’r stori fynd, dilynwch lif chwarae’r plant a, nes ymlaen, efallai byddan nhw’n dychwelyd at y stori unwaith eto.

Group of children on the beach

Hel Atgofion

Ar y ffordd adre neu unwaith eich bod chi nôl yn y tŷ cewch chi ddechau siarad am brofiadau’r diwrnod fel stori. “Wyt ti’n cofio gwneud y cwtsh bach yn y coed a’r gangen enfawr ddefnyddiaist ti?” “Wyt ti’n cofio pan oeddet ti yn y cwtsh a chanodd aderyn yn uchel iawn reit ar dy bwys di?” Mae cwestiynau fel rhain yn gallu hybu’r arfer o adrodd straeon a chyn hir bydd chwedleua yn rhan annatod a llawen o’ch bywyd teuluol.

Family walking by a river

Mae Michael Harvey yn storïwr yng Nghymru ac mae'n gweithio gyda grwpiau cymunedol, mewn theatrau, tafarndai, ysgolion, gwyliau, llyfrgelloedd, neuaddau pentref, orielau ac amgueddfeydd.

Gallwch wrando ar straeon Michael trwy ymweld â’i wefan yma

Storïau i'w darllen ar goedd yn Gymraeg a Saesneg


Add a comment