Arolwg Partneriaid BookTrust

Mae'r dudalen hon yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod am ein harolwg newydd sbon ar gyfer partneriaid blynyddoedd cynnar. Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy neu cliciwch ar y botwm isod i gwblhau'r arolwg nawr.

 Cwblhewch Arolwg Partneriaid BookTrust nawr

Diolch am eich diddordeb yn Arolwg Partneriaid BookTrust

Cliciwch drwy'r opsiynau isod os hoffech chi gael gwybod mwy am yr arolwg, neu cliciwch yma i gwblhau'r arolwg nawr.

Ynglŷn â’r arolwg

  • Beth yw Arolwg Partneriaid BookTrust?

    Mae ein partneriaid gwerthfawr wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud, ac rydym eisiau clywed gan gynifer o bobl â phosibl sy'n defnyddio rhaglenni ac adnoddau blynyddoedd cynnar BookTrust.

    Yn y gorffennol, mae BookTrust wedi cynnal sawl arolwg i werthuso rhaglenni penodol a chael adborth gan bartneriaid. Rydym eisiau cyflwyno un arolwg byr, syml yn lle'r rhan fwyaf o'r rhain, yr ydym yn gobeithio ei gynnal bob blwyddyn.

    Eleni, rydym yn gofyn i'n partneriaid blynyddoedd cynnar ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gwblhau'r arolwg er mwyn ein helpu i ddeall mwy am yr adnoddau rydym yn eu darparu a'r gwahaniaeth rydym yn ei wneud gyda'n gilydd.

  • Beth mae Arolwg Partneriaid BookTrust yn ei gwmpasu?

    Rydym eisiau gwybod eich barn am adnoddau BookTrust a'r cymorth y mae'n ei roi, eich blaenoriaethau chi fel sefydliad, a sut rydych chi'n teimlo am ddarllen a rhannu straeon gyda phlant a theuluoedd.

    Bydd yr arolwg yn cymryd 5-15 munud i'w gwblhau ac, i ddiolch i chi am eich amser a'ch cyfraniad, bydd cyfle i chi ennill gwobrau gwych gan gynnwys talebau; llyfrgelloedd bach pwrpasol; a phrofiad adrodd stori gydag awdur, darlunydd neu fardd. Rydym wedi cynnwys mwy o fanylion am y gwobrau hyn isod.

  • Pam mae Arolwg Partneriaid BookTrust yn bwysig?

    Bob blwyddyn, mae BookTrust yn gweithio gyda thros 25,000 o bartneriaid, i gefnogi teuluoedd a phlant o 0-13. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid mewn addysg Blynyddoedd Cynnar, llyfrgelloedd, gofal iechyd, gofal cymdeithasol, ysgolion a llawer mwy. Mae ein rhwydwaith cryf o bartneriaid yn cynnwys pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr a phob cyngor lleol yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n hanfodol i'n cenhadaeth i helpu plant a theuluoedd i brofi'r manteision eang a geir drwy ddarllen.

    Rydym eisiau clywed gennych er mwyn i ni allu deall mwy am:

    • y sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw
    • eich barn ar y cymorth a'r adnoddau rydym yn eu darparu
    • yr hyn y gallwn ni ei wneud i roi mwy o gymorth i chi

    Does dim atebion cywir nac anghywir, ac rydym yn croesawu unrhyw adborth ar ein gwaith (cadarnhaol a negyddol). Gall yr adborth y byddwch chi'n ei roi yn cael ei ddefnyddio i wneud newidiadau i'n rhaglenni, ond ni fydd unrhyw ymateb y byddwch chi'n ei roi yn effeithio ar eich perthynas â BookTrust mewn unrhyw ffordd ac nid oes unrhyw rwymedigaeth arnoch i gymryd rhan yn yr arolwg. Fodd bynnag, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych!

  • Rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth

    Tuag at ddiwedd yr arolwg, gofynnir i chi a hoffech chi gymryd rhan yn y gystadleuaeth a chewch eich annog i roi eich gwybodaeth gyswllt. Bydd pob cyfranogwr sy'n cydsynio i gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac sy'n rhoi ei wybodaeth gyswllt yn gymwys i ennill naill ai:

    • Taleb Amazon gwerth £100
    • Llyfrgell fach bwrpasol o 30 o lyfrau, wedi'i churadu gan ein Tîm Llyfrau arbenigol.

    Byddwn yn dewis 10 o enillwyr ar hap, a bydd gan bob cyfranogwr yr un cyfle i ennill ni waeth pa wobr y bydd yn ei dewis.

    Byddwn hefyd yn gweithio gyda'r Cydlynydd Dechrau Da o'r awdurdod lleol a fydd yn dychwelyd y gyfran fwyaf o arolygon er mwyn trefnu profiad adrodd stori ar gyfer ei ardal. Fel rhan o'r wobr hon, bydd BookTrust yn rhoi'r Cydlynydd Dechrau Da buddugol mewn cysylltiad ag awdur, darlunydd neu fardd plant er mwyn i chi allu trefnu digwyddiad llawn hwyl i deuluoedd yn eich awdurdod lleol, yn rhithwir neu wyneb yn wyneb. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am delerau ac amodau'r gystadleuaeth hon yma.

    Byddwn yn dewis enillwyr y gystadleuaeth unwaith y bydd yr arolwg wedi cau. Nodwch, efallai y bydd angen hyd at dri mis arnom ar ôl y gystadleuaeth i ddod o hyd i awdur, darlunydd neu fardd addas.

  • Os byddwch chi’n penderfynu cymryd rhan, sut fyddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth y byddwch chi’n ei rhannu?

    • Gweld y wybodaeth rydych chi'n ei rhoi: Dim ond BookTrust fydd yn gallu gweld yr ymatebion y gwnaethoch chi eu rhoi i'r arolwg ac ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu â neb y tu allan i'r sefydliad. Ni fyddwn yn cadw'r wybodaeth y gwnaethoch chi ei rhoi am fwy na 2 flynedd.
    • Defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn yr arolwg: Bydd y wybodaeth sy'n cael ei chasglu o'r arolwg hwn yn cael ei defnyddio'n fewnol er mwyn helpu i wella ein rhaglenni, ac efallai y byddwn ni'n cyhoeddi data dienw, cyfunol yn allanol. Bydd unrhyw ddyfyniadau y byddwn ni'n eu defnyddio'n allanol i hyrwyddo ein gwaith yn gwbl ddienw, sy'n golygu na fydd modd eich adnabod chi. Drwy gytuno i gymryd rhan yn yr arolwg hwn, rydych chi'n cytuno i ni ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn y ffordd hon.
    • Cysylltu â chi: Ar ddiwedd yr arolwg, byddwn ni'n gofyn am eich manylion cyswllt os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y gystadleuaeth, er mwyn i ni allu cysylltu â'r enillwyr. Byddwn ni hefyd yn gofyn am eich caniatâd i gysylltu â chi eto am gymryd rhan mewn rhagor o ymchwil. Eich penderfyniad chi yw p'un a ydych chi am roi eich manylion cyswllt ai peidio a gallwch chi gymryd rhan yn y gystadleuaeth o hyd, hyd yn oed os nad ydych chi eisiau i rywun gysylltu â chi at ddibenion eraill. Ni fydd eich manylion cyswllt personol yn cael eu defnyddio at unrhyw ddibenion eraill ac ni fyddant yn cael eu rhannu â thrydydd parti (ac eithrio talu cymhellion i enillwyr). Bydd yr holl ddata yn cael ei storio'n ddiogel, yn unol â rheoliadau GDPR. Cliciwch yma os hoffech chi weld ein polisi preifatrwydd.

    Mae gennych chi'r hawl i ofyn am gael gweld copi o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi ac i ofyn i ni gywiro neu ddileu'r wybodaeth nad oes ei hangen mwyach. Gallwch chi ofyn i BookTrust roi'r gorau i ddefnyddio unrhyw beth y byddwch chi'n ei rannu (e.e. lluniau, dyfyniadau y gellir eu priodoli i chi) unrhyw bryd ac, os felly, ni chaiff ei ddefnyddio mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol ond gall barhau i ymddangos mewn cyhoeddiadau sydd wedi'u dosbarthu eisoes neu sydd eu hangen at ddibenion archifol (fel ein Hadroddiadau Blynyddol).

Cysylltu â'r tîm

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gysylltu â'r tîm Ymchwil ac Effaith yn BookTrust, anfonwch e-bost atom yn research@booktrust.org.uk gan roi 'Arolwg Partneriaid BookTrust' yn y llinell pwnc.

Cwblhewch Arolwg Partneriaid BookTrust nawr