Paratoi i ddechrau yn yr ysgol
Mae dechrau yn yr ysgol yn amser cyffrous a bydd eich plentyn yn cael llawer o brofiadau newydd. Ond rydym yn gwybod y gall fod emosiynau cymysg hefyd.
Ar y dudalen hon mae:
- gwybodaeth am sut y gall rhannu llyfrau a straeon helpu i baratoi eich plentyn ar gyfer dechrau yn yr ysgol
- awgrymiadau ymarferol a difyr ar helpu eich plentyn i baratoi ar gyfer dechrau yn yr ysgol
- argymhellion ar gyfer llyfrau i'ch helpu i ddod o hyd i straeon gwych i'w rhannu, gan gynnwys ein hoff lyfrau ar gyfer dechrau yn yr ysgol.
Nid yw rhai o'r tudalenau we yn y dolenni ar gael yn ddwyieithog eto.
Sut all rannu llyfrau a straeon helpu fy mhlentyn i baratoi ar gyfer mynd i'r ysgol?
Mae ymchwil yn dangos bod yna lawer o ffyrdd y gall rannu llyfrau a straeon fod o fudd i blant (dysgwch fwy yma). Dyma bum ffordd allweddol y gall rannu llyfrau a straeon helpu eich plentyn i baratoi ar gyfer mynd i'r ysgol:
1. Gall rannu straeon gyda'ch gilydd eich helpu chi a'ch plentyn i deimlo'n agosach ac yn fwy cysylltiedig.
Gall cwtsh tawel gyda chi a llyfr ei helpu i deimlo'n saff. Gall hefyd ddod â moment o lonyddwch i fywyd teuluol prysur, yn enwedig wrth i chi baratoi ar gyfer newid.
2. Gall rannu llyfrau a straeon helpu eich plentyn i ddatblygu sgiliau cymdeithasol cryfach.
Gall hyn wneud iddo deimlo'n fwy parod i gyfarfod â phobl newydd a gwneud ffrindiau pan fydd yn dechrau yn yr ysgol.
3. Mae darllen a rhannu straeon yn helpu i ddatblygu iaith a lleferydd.
Bydd cefnogi eich plentyn i gyfathrebu'n well yn ei helpu gyda'r holl ddysgu gwahanol y bydd yn ei wneud yn yr ysgol, gan gynnwys ei helpu i wrando ar ei athrawon a siarad a dweud beth sydd ei angen arno.
4. Gall straeon helpu plant i deimlo'n fwy cyfforddus a hyderus wrth setlo yn yr ysgol.
Mae llyfrau plant yn cwmpasu llawer o bynciau gwahanol, o baratoi yn y bore, i sut beth yw diwrnod yn yr ysgol. Gall y rhain helpu eich plentyn i ymgyfarwyddo â rhannau gwahanol o fywyd yn yr ysgol a'i harferion. Parhewch i ddarllen i gael rhai argymhellion ar gyfer llyfrau a fydd yn eich helpu i ddechrau arni!
5. Gall llyfrau a straeon gychwyn sgyrsiau ac annog eich plentyn i rannu ei deimladau am ddechrau yn yr ysgol.
Efallai y bydd gan eich plentyn deimladau cymysg am y newid. Gall rannu llyfrau a straeon eich helpu chi i siarad am y teimladau hynny gyda'ch gilydd a chynnig sicrwydd i'ch plentyn, os bydd angen.
Sut beth fydd darllen a rhannu straeon yn yr ysgol? Sut alla' i helpu fy mhlentyn i baratoi?
Mae rhai rhieni a gofalwyr yn dweud wrthym eu bod nhw'n dechrau meddwl neu hyd yn oed yn poeni am yr hyn y mae angen i'w plentyn ei wybod cyn iddo ddechrau yn yr ysgol.
Mae athrawon yn deall y bydd plant ar gamau gwahanol o ran eu darllen, a byddan nhw'n cefnogi eich plentyn drwy gydol ei amser yn yr ysgol. Bydd eich plentyn yn dysgu'r sgiliau i ddarllen unwaith y bydd yn dechrau, ond yr hyn y gallwch chi ei wneud nawr yw ei helpu i baratoi a theimlo'n gyffrous.
Mwynhau a chael hwyl yn rhannu straeon a llyfrau gyda'ch plentyn yw un o'r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i'w helpu i baratoi.
Bydd gweld llyfrau yn rhywbeth i'w fwynhau yn ei helpu i ddysgu, yn enwedig pan fydd yn dechrau darllen ar ei ben ei hun. Hefyd, mae ein hymchwil yn dweud wrthym fod mwynhau darllen hefyd yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd eich plentyn yn gwneud yn dda yn ei holl bynciau eraill yn yr ysgol hefyd.
Awgrymiadau ar gyfer mwynhau darllen a rhannu straeon gyda'ch gilydd
Y cam cyntaf i gael hwyl gyda llyfrau a straeon yw dod yn gyfarwydd â nhw, o ddal llyfr a throi'r tudalennau, i wrando ar y stori. Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf neu os nad ydych chi'n darllen eich hun, edrychwch ar y lluniau gyda'ch gilydd. Mae siarad amdanyn nhw'n wych hefyd. Darllenwch rai o'n hawgrymiadau isod am fwy o ffyrdd o gael hwyl gyda'ch gilydd!
Dyma rai awgrymiadau da
-
Darganfyddwch beth sy’n gweithio i chi.
Does dim ffordd gywir neu anghywir o rannu llyfrau a straeon gyda'ch plentyn, felly hyd yn oed os yw'n rhywbeth rydych chi'n ei wneud am y tro cyntaf, gallwch chi roi cynnig ar bethau gwahanol a gweld beth sy'n addas i chi a'ch teulu. Gall ychydig funudau'r diwrnod pryd bynnag y bydd cyfle fod yn ddechrau da. Os ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth, mae rhai syniadau yn ein llyfryn i rieni plant 4-6 oed.
-
Helpwch eich plentyn i ddod o hyd i lyfrau neu gymeriadau y bydd yn eu hoffi.
Mae'n bwysig dod o hyd i lyfrau y gall eich plentyn uniaethu â nhw, yn enwedig os nad yw'n frwdfrydig iawn am ddarllen ar y funud. Felly, p'un a yw wrth ei fodd gyda deinosoriaid, pryfed, neu gerbydau, gall fod yn ddefnyddiol i chi edrych drwy ein Chwilotwr llyfrau gyda'ch gilydd i chwilio am lyfrau ar themâu a phynciau y bydd eich plentyn yn eu mwynhau.
Gallech chi hyd yn oed annog eich plentyn i gadw llygad allan am ei hoff lyfrau a chymeriadau ymhlith y llyfrau yn yr ysgol, a siarad â'i ffrindiau newydd a'i athrawon am yr hyn mae'n ei hoffi.
-
Byddwch yn chwilfrydig ac archwiliwch lyfrau gyda’ch gilydd mewn ffyrdd gwahanol.
Gall cwestiynau fel 'Beth wyt ti'n credu gallai ddigwydd nesaf?' neu 'Beth wyt ti'n credu mae'r cymeriad yna'n ei wneud?' wneud i'ch plentyn feddwl. Gadewch iddo arwain y sgwrs a gofyn cwestiynau hefyd!
-
Peidiwch â bod yn swil a gwnewch e’n hwyl!
Gallwch chi ddefnyddio lleisiau gwahanol neu dynnu wynebau doniol i chwarae cymeriad. Beth bynnag sy'n ei gwneud yn hwyl i'r ddau ohonoch chi. Efallai y byddwch chi'n hoffi'r llyfrau hyn i helpu i sbarduno dychymyg eich plentyn. Os yw eich plentyn yn hoffi rhigymau neu gyfrif, efallai y bydd yn mwynhau llyfrau sy'n cyflwyno geiriau neu rifau newydd mewn ffordd ddifyr.
-
Anogwch eich plentyn i rannu ei deimladau, ei gyffro neu ei bryderon.
Gallech chi wneud hyn yn gyntaf drwy edrych ar luniau a gofyn sut mae'r cymeriadau'n teimlo am sefyllfaoedd gwahanol yn y stori. Gallwch chi hefyd edrych am lyfrau am gyfeillgarwch; llyfrau am deimladau a straeon am wydnwch; neu rai sy'n annog plant i siarad amdanyn nhw eu hunain.
-
Anogwch aelodau eraill o’r teulu i ddarllen gyda’ch plentyn: nid chi yw’r unig un all wneud!
Neiniau/teidiau, modrybedd neu frodyr/chwiorydd – po fwyaf y bobl y bydd eich plentyn yn eu gweld yn darllen, y mwyaf awyddus y bydd i ddarllen hefyd.
-
Gwnewch stori amser gwely yn rhan o’ch trefn amser gwely.
Yn ogystal â chael rhywbeth i edrych ymlaen ato, mae'n helpu i gael trefn gyson y gallwch chi barhau ag ef unwaith y bydd eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol, gan helpu i ymlacio ar ôl diwrnod prysur. Darllenwch ein hawgrymiadau ar gyfer trefn amser gwely ac edrychwch ar rai o'n hargymhellion ar gyfer llyfrau sy'n wych ar gyfer amser gwely yma.
-
Ond dydy llyfrau ddim ar gyfer amser gwely yn unig! Gall straeon gael eu rhannu lle bynnag a phryd bynnag.
Cofiwch fod llawer o ffyrdd gwahanol o gynnwys darllen a rhannu straeon yn eich bywyd o ddydd i ddydd, p'un ai drwy sesiwn grŵp adrodd stori yn eich llyfrgell leol, drwy fynd â'ch hoff lyfr gyda chi i'r parc neu drwy ailddarganfod un o'ch hoff straeon eich hun o'ch plentyndod.
Dydy’r pontio i’r ysgol ddim yn stopio ar y diwrnod cyntaf.
Megis dechrau ydyw mewn gwirionedd! Wrth i'ch plentyn symud drwy'r ysgol, bydd gwahanol gyfnodau o ddysgu o ran darllen, gan gynnwys dysgu sut i ddarllen ar ei ben ei hun.
Ond cofiwch gymryd amser o hyd ar gyfer yr eiliadau arbennig hynny gyda'ch gilydd i ymlacio gyda hoff lyfr. Bydd parhau i fwynhau darllen a rhannu straeon gyda'ch plentyn unwaith y bydd ysgol yn dechrau yn bwysig o ran ei ddysgu a'i berthnasoedd a bydd yn cefnogi ei les ehangach nawr ac yn y dyfodol.
Rhai adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi
Nid yw rhai o'r dogfennau yn y dolenni ar gael yn ddwyieithog eto.
Rydym wedi dewis rhai llyfrau doniol iawn sy'n berffaith i wneud i chi a'ch plentyn chwerthin gyda'ch gilydd.
Rydym yn argymell llyfrau lluniau sy'n wych am ddangos yr hyn sy'n digwydd bob dydd ym mywydau plant.
Mae ein Canllaw Llyfrau Gwych yn nodi teitlau gwych rydym yn hoff iawn ohonyn nhw o'r flwyddyn ddiwethaf – darllenwch ein dewisiadau i blant 4-5 oed.
Mae gan yr awdur a'r addysgwr blynyddoedd cynnar Jamel C. Campbell gyngor da iawn i leddfu pryderon am ddechrau yn yr ysgol – a rhai argymhellion ar gyfer llyfrau.