Llyfrau Gwych i Blant Bach yn Gymraeg a Saesneg / Great Books for Toddlers in Welsh and English

Mor hyfryd yw’r byd What a wonderful world.jpg

Ydych chi’n chwilio am lyfrau i’w darllen i’ch plentyn bach yn Gymraeg neu’n Saesneg? Boed yn llyfr amser gwely neu rywbeth i’w drysori am flynyddoedd i ddod, mae gennym ni lyfrau hyfryd i chi roi cynnig arnyn nhw gyda’ch plentyn bach yn y ddwy iaith.

Are you looking for books to read to your toddler in Welsh or English? Whether that’s a book for bedtime or something to treasure for years to come, we’ve got wonderful books for you to try with your toddler in both languages.

  • Alphaprint / Anifeiliaid (bilingual)

    Author: Sarah Powell Illustrator: Jo Ryan
    Publisher: Atebol
    Interest age: 0-4

    Bydd y plant wrth eu boddau yn archwilio’r anifeiliaid sydd wedi’u cyflwyno mewn ffordd newydd sbon yn y llyfr bwrdd hwyliog hwn ar odl.

    Children will love exploring animals as we’ve never seen them before in this fun, rhyming board book.

  • Ben a Betsan: Y Falŵn fawr / Ben and Betsan: The Big Balloon (bilingual)

    Author: Axel Scheffler Adapted by Eleri Huws
    Publisher: Rily
    Interest age: 2-6
    Reading age: 6+

    Gydag anifeiliaid llawn cymeriad ar bob tudalen, mae llawer i’w ganfod a’i archwilio yn y stori hyfryd hon am gyfeillgarwch.

    Filled with characterful animals on every page, there’s lots to spot and explore in this cheering story about friendship.

  • Cwning-od I Fyny Ac I Lawr / Funny Bunnies Up and Down (bilingual)

    Author: David Melling Adapted by Mared Edwards
    Publisher: Atebol
    Interest age: 0-5

    Llyfr bwrdd hwyliog yn llawn symudiadau i’w gwneud gyda’r plant.

    A fun and bold board book full of actions that you can do with children.

  • Ble Wyt Ti, Bwci Bo? / Where are you, Bwci Bo? (bilingual)

    Author: Joanna Davies Illustrator: Steven Goldstone
    Publisher: Atebol
    Interest age: 4-5

    Ymunwch â’r Bwci Bos, y bwystfilod bach, wrth iddyn nhw archwilio’r byd. Mae un bwystfil wrth ei fodd yn y goedwig, un arall yn dwlu ar y cefnfor, ac wrth i fwystfilod ganu clodydd yr anialwch, y fforest law, yr Arctig a hyd yn oed y gofod, mae llawer i’w ddarganfod yn y llyfr hyfryd hwn. Pa le yw’r gorau yn eich barn chi?


     

    Join the Bwci Bos, the litt…

  • Dawns yr Anifeiliaid / Doing the Animal Bop (bilingual)

    Author: Jan Ormerod Adapted by Delyth George Illustrator: Lindsey Gardiner
    Publisher: Rily
    Interest age: 1-5

    Llond trol o ddawnsio, hwyl a chanu, a bydd y plant wrth eu bodd yn ymuno â’r sbri.

    A riot of dancing, fun and singing that children will love to join in with.

  • Gŵydd ar y Fferm / Goose on the Farm (bilingual)

    Author: Laura Wall Adapted by Gill Saunders Jones
    Publisher: Atebol
    Interest age: 2-6
    Reading age: 6+

    Bydd pawb yn mwynhau’r ymweliad cofiadwy hwn â’r fferm.

    Everyone will enjoy this very memorable trip to the farm.

  • Hapus / Happy (bilingual)

    Author: Emma Dodd Adapted by Ceri Wyn Jones
    Publisher: Dref Wen
    Interest age: 2-5

    Stori i godi calon am fwynhau chwarae, chwerthin a dysgu gyda’r tylluanod bach a mawr anwylaf.  

    A heart-warming story about enjoying play, laughter and learning with the cutest little and large owls. 

  • Mor hyfryd yw’r byd / What a wonderful world (bilingual)

    Author: Bob Thiele and George Davis Weiss Adapted by Tudur Dylan Jones
    Publisher: Rily
    Interest age: 2-7
    Reading age: 6+

    Llyfr lluniau llawn ysbrydoliaeth sy’n dychmygu’r byd hyfryd a lliwgar yng nghân adnabyddus Louis Armstrong.

    An inspiring picture book that imagines the wonderful and colourful world from Louis Armstrong’s classic song.

  • Weithiau Dwi’n Teimlo’n Heulog / Sometimes I Feel Sunny (bilingual)

    Author: Gillian Shields Adapted by Gwynne Williams
    Publisher: Dref Wen
    Interest age: 0-7
    Reading age: 3-6

    Llyfr hyfryd a gonest am deimladau, o deimlo’n heulog i deimlo’n drist, a phopeth rhwng y ddau.

    A lovable and honest book about feelings, from feeling sunny to feeling sad and everything in between.