-
5 fantastic farmyard books 14/03/25
Garddwr Y Gwyll / The Night Gardener (bilingual)
Publisher: Rily
Mae William yn edrych drwy ei ffenest mewn cartref plant amddifad ar Grimloch Lane un diwrnod a dyma fe’n gweld rhyw gythrwfl y tu allan. Pan mae’n mynd i lawr i’r stryd, mae amgylchedd sepia’r dref wedi’i drawsnewid gan dylluan docwaith, a gerfiwyd gan rywun dirgel.
Cyn hir, mae’r coed yn troi’n anifeiliaid lle bynnag yr aiff William – cathod, cwningod, a draig hyd yn oed, ac mae stryd ddiflas Grimloch Lane yn trawsnewid i fod yn lle hudolus.
Wedyn, un nos, mae William yn dod o hyd i Arddwr y Gwyll, sy’n dysgu iddo sut i wneud Grimloch Lane yn hardd am byth.
Dyma stori dwymgalon wedi’i darlunio’n hardd am dref drist a phlentyn amddifad unig wrth i’r naill a’r llall gael bywyd newydd o ganlyniad i garedigrwydd a sgiliau Garddwr y Gwyll. Prin yw’r testun, gan adael effaith.
-
Our favourite Letterbox Club Wales books / Ein hoff lyfrau Clwb Blwch Llythyrau Cymru
Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Clwb Blwch Llythyrau wedi anfon parseli at dros 10,000 o blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Dyma rai o'n hoff lyfrau a ddewiswyd yn arbennig i gael eu cynnwys yn Letterbox Club yng Nghymru.
Over the last 10 years Letterbox Club has sent parcels to over 10,000 children who are in care in Wales. These are some of our favourite …