-
5 fantastic farmyard books 14/03/25
Alphaprint / Anifeiliaid (bilingual)
Publisher: Atebol
Cawn gwrdd ag anifeiliaid mewn ffordd newydd sbon yn y llyfr bwrdd hwyliog hwn ar odl. Edrychwch yn fanwl a theimlwch y tudalennau i ddarganfod bod yr anifeiliaid wedi’u creu o olion bysedd a phethau eraill. Petalau blodau yw mwng y llew, moronen yw corn y rheino a botymau siocled yw smotiau’r jiráff! Caiff y plant gwrdd â phob anifail wrth iddo stompio neu neidio neu fwyta bwyd blasus a gall y darllenwyr brwd ymuno yn y symudiadau hefyd.
Bydd y plant wrth eu boddau yn archwilio’r lluniau yn y llyfr unigryw hwn ac yn dychwelyd i droi’r tudalennau dro ar ôl tro. Mae cymaint i’w ddarganfod – mae’n siŵr y bydd yn ffefryn gan deuluoedd, gan eu hannog i siarad am liwiau, anifeiliaid, siapiau a mwy.
Animals as we’ve never seen them before feature in this fun, rhyming boardbook. Look closely and feel the pages to discover the animals are made up of fingerprints and objects. Lion manes are flower petals, rhino horns are carrots and giraffe spots are chocolate buttons! Children meet each animal as it stomps or jumps or eats some tasty food and keen readers can join in with the actions too.
Children will love exploring the images in this unique book and return to the pages again and again. There is so much to discover this is bound to become a firm favourite for families, encouraging talk about colours, animals, shapes and more.
-
Dechrau Da i Blant Bach: rhagor o lyfrau gwych i blant 1-2 oed / Bookstart Toddler Wales: more brilliant books for 1-2s
Llyfrau wedi'u dewis â llaw yn y Gymraeg a'r Saesneg sy'n berffaith ar gyfer plant 1-2 oed, wedi'u dewis i'ch helpu i gael mwy o becyn Dechrau Da i Blant Bach.
Hand-picked books in Welsh and English that are perfect for children aged 1-2, selected to help you get more from the Bookstart Toddler pack
-
Llyfrau Gwych i Blant Bach yn Gymraeg a Saesneg / Great Books for Toddlers in Welsh and English
Ydych chi’n chwilio am lyfrau i’w darllen i’ch plentyn bach yn Gymraeg neu’n Saesneg?
Are you looking for books to read to your toddler in Welsh or English?