-
What to Read After... Isadora Moon 28/03/25
-
Using fiction to smash stereotypes 21/03/25
Rôr! Rôr! Deinosor Ydw I! / Roar! Roar! I’m a Dinosaur! (bilingual)
Publisher: Atebol
Dewch i gwrdd â deinosoriaid lliwgar yn y llyfr bwrdd rhyngweithiol hwn ble gall y plant lleiaf wthio’r tabiau ar bob tudalen i ddod â’r deinosoriaid yn fyw – wel, curo’u hadenydd neu stampio’u traed neu chwifio’u cynffon, beth bynnag! Mae pob tudalen yn cyflwyno deino gwahanol, gyda ffaith syml am bob un a geiriau gweithred cysylltiedig.
Weithiau gall enwau deinosoriaid fod yn anodd eu dweud, ond fan hyn, torrir y geiriau yn ôl eu sain i helpu darllenwyr i’w hyngan, sydd hefyd yn peri i’r plant bach feddwl am seiniau gwahanol, sy’n wych ar gyfer datblygu iaith. Ac mae’r ‘fflapiau llithro’ i symud y deinosoriaid yn helpu gyda sgiliau echddygol main, yn ogystal â bod yn lot o sbri!
Meet some brightly coloured dinosaurs in this interactive board book where little ones can push the tabs on each page to bring the dinosaurs to life – well, flap their wings or stomp their feet or swish their tail at any rate! Each page introduces a different dino, with a simple fact about each one and some related action words.
Sometimes dinosaur names can be quite tricky to say, but here the words are broken down by their sounds to help readers pronounce them, which also gets little ones thinking about the different sounds, great for language development. And the ‘sliders’ to get the dinosaurs moving help with fine motor skills, as well as just being fun!
-
Dechrau Da i Blant Bach: rhagor o lyfrau gwych i blant 1-2 oed / Bookstart Toddler Wales: more brilliant books for 1-2s
Llyfrau wedi'u dewis â llaw yn y Gymraeg a'r Saesneg sy'n berffaith ar gyfer plant 1-2 oed, wedi'u dewis i'ch helpu i gael mwy o becyn Dechrau Da i Blant Bach.
Hand-picked books in Welsh and English that are perfect for children aged 1-2, selected to help you get more from the Bookstart Toddler pack