Y Llew tu Mewn / The Lion Inside (bilingual)

Publisher: Atebol

Dyma stori hyfryd gan Rachel Bright am lew a llygoden. Mae’r llew yn fawr, beiddgar a chryf ac mae’n “RHUO” yn uchel. Mae’r llygoden wedyn yn bitw, yn ddistaw ac yn ysu am gael bod yn fwy dewr a swnllyd! Un diwrnod, dyma’r llygoden yn creu cynllun er mwyn iddo gael ei glywed.

Fe wnaethon ni fwynhau’r defnydd o odli yn y llyfr ac rydyn ni i gyd yn meddwl y byddai’n gwneud llyfr gwych i’w adrodd yn uchel i blant hyd at 7 oed. Byddai’n ddefnyddiol iawn i blant a allai fod yn teimlo’n nerfus ac angen hwb i’w hyder eu hunain. Mae’r stori’n ein helpu i ddysgu y gallwch chi fod yn ddewr, waeth pa mor fach ydych chi. Mae’r llyfr wedi’i ddarlunio’n hardd gan Jim Field ac roedden ni’n dwlu ar luniau hardd y safana yn Affrica.


This is a charming story by Rachel Bright, about a lion and a mouse. The lion is big, bold and strong with a loud “ROAR” and the mouse is tiny, quiet and desperate to be braver and louder! One day the mouse hatches a plan so that he can be heard.

We enjoyed the use of rhyme throughout the book and we all think that this would make a great ‘read aloud’ book for children up to the age of 7. It would be really useful for children who may feel nervous or need to build up their own confidence. The story teaches us that no matter how small you are, you can always be brave. The book is beautifully illustrated by Jim Field and we loved the colourful pictures of the African savanna.

More books like this

Hwiangerddi

Author: Elin Meek Illustrator: Helen Flook

A delightful collection of 50 traditional Welsh nursery rhymes.

Casgliad hyfryd o hanner cant o hwiangerddi traddodiadol Cymraeg.

Read more about Hwiangerddi

Eliffant yn fy Nghegin! / Elephant in my Kitchen!

Author: Smriti Halls Adapted by Aneirin Karadog Illustrator: Ella Okstad

Pan mae plentyn bach yn dod ar draws eliffant yn y gegin yn llowcio’u hoff fyrbrydau i gyd, mae’n rhaid cael gwybod beth sy’n digwydd!

Wrth i fwy a mwy o anifeiliaid gwyllt gyrraedd a dechrau cymryd y tŷ drosodd, maen nhw’n esbonio bod y newid yn yr hinsawdd yn dinistrio’u cartrefi eu hunain felly mae’r plentyn yn awgrymu cynllun gwych i helpu.

Mae hon yn st…

Read more about Eliffant yn fy Nghegin! / Elephant in my Kitchen!

Share this book with your friends

Use our Bookfinder to discover the perfect children's books for every age...